Yn dyfarnu arian Y Loteri Genedlaethol.

Arian y Loteri

Cymraeg | English   
 

Rhestr ariannwyr loteri

 

Cymru 

Cliciwch ar bob ariannwr i ganfod mwy am y math o waith mae’n ei ariannu a phwy i gysylltu os hoffech wneud cais. Gallwch hefyd weld esiamplau o brosiectau a ariannwyd. 

 

Cyngor Celfyddydau Cymru

Cyngor Celfyddydau Cymru sy’n gyfrifol am ddatblygu a chyllido’r celfyddydau yng Nghymru.


Arian i Bawb


Cronfa Loteri Fawr

Mae’r Gronfa Loteri Fawr wedi’i ymrwymo i wella cymunedau a bywydau’r bobl mwyaf anghenus.


Cronfa Dreftadaeth y Loteri

Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri’n defnyddio arian o’r Loteri Genedlaethol i roi grantiau i amrywiaeth eang o brosiectau sy’n ymwneud â threftadaeth genedlaethol, rhanbarthol a lleol y Deyrnas Unedig.


NESTA

Corff cyhoeddus anadrannol yw NESTA (y Gynhysgaeth Genedlaethol ar gyfer Gwyddoniaeth, Technoleg a’r Celfyddydau) sy’n buddsoddi mewn arloeswyr ac yn gweithio i wneud yr hinsawdd yn fwy ffafriol ar gyfer creadigrwydd yn y DU.


Dosbarthwr Loteri Olympaidd

Nod y Dosbarthwr Loteri Olympaidd yw cefnogi cynnal y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd yn Llundain 2012. Nid yw’r Dosbarthwr Loteri Olympaidd yn rhedeg unrhyw raglenni grantiau ar hyn o bryd.


Cyngor Chwaraeon Cymru

Cyngor Chwaraeon Cymru yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu a hybu chwaraeon a ffyrdd o fyw egnïol.


Cyngor Ffilm y DU

Corff cyhoeddus anadrannol yw NESTA (y Gynhysgaeth Genedlaethol ar gyfer Gwyddoniaeth, Technoleg a’r Celfyddydau) sy’n buddsoddi mewn arloeswyr ac yn gweithio i wneud yr hinsawdd yn fwy ffafriol ar gyfer creadigrwydd yn y DU.


Chwaraeon DU

Yn gweithio mewn partneriaeth i arwain chwaraeon yn y DU tuag at lwyddiant ar safon byd.


Ariannu

 

 

Awarding funds from The National Lottery