Cronfa Dreftadaeth y Loteri
|
|
|
|
Gan ddefnyddio arian a godwyd drwy’r Loteri Genedlaethol, mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL) yn cynnal a gweddnewid ystod eang o dreftadaeth ar gyfer y cenedlaethau presennol a’r rhai sydd i ddod er mwyn iddynt gael profiad ohonynt, dysgu drwyddynt a’u mwynhau. O amgueddfeydd, parciau a lleoedd hanesyddol i archaeloeg, yr amgylchedd naturiol a thraddodiadau diwylliannol, rydym yn buddsoddi ym mhob rhan o’n treftadaeth amrywiol. Mae CDL wedi dyfarnu dros £4 biliwn mewn grantiau i brosiectau treftadaeth ar hyd a lled y DU.
|
|
|
Peilotiaid yn yr Amgueddfa Rhyfel Ymerodrol, Duxford.
| |
|
Y math o waith a noddir
Mae gan CDL dri nod sydd yn ymwneud â dysgu, cadwraeth a chyfranogiad. Drwy roi grantiau ein nod yw:
- diogelu treftadaeth amrywiol y DU er mwyn i’r cenedlaethau presennol a’r cenedlaethau sydd i ddod gael profiad ohonynt a’u mwynhau;
- helpu mwy o bobl, ac ystod ehangach o bobl, i chwarae rhan weithredol mewn gwneud penderfyniadau ynglyn â’u treftadaeth;
- helpu pobl i ddysgu ynglyn â’u treftadaeth eu hunain a threftadaeth pobl eraill.
Ystod maint grantiau: lleiafswm – uchafswm
Mae gan CDL ystod o raglenni ar gyfer prosiectau treftadaeth o bob math a maint. Rydym yn cynnig grantiau o £3,000 i ddyfarniadau sawl miliwn o bunnoedd.
Mathau o gynllun (agored / caeedig / wedi’i dargedu)
Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri’n cynnig cyfuniad o raglenni grantiau cyffredinol, ynghyd â mentrau wedi eu targedu at feysydd treftadaeth neu themâu penodol. Ffoniwch ni am fwy o wybodaeth.
Ardal ddaearyddol
Gallwn ddyfarnu grantiau drwy’r DU i gyd (heblaw am Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw).
Mae gennym 11 swyddfa drwy’r DU i gyd gan gynnwys swyddfeydd yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Meysydd blaenoriaeth a negeseuon allweddol (er enghraifft, arian partneriaeth)
Mae CDL yn cynnig cyngor a chefnogaeth cyn gwneud cais drwy ein tîmau lleol ac yn ymrwymiedig i weithio tuag at ledaeniad cyfiawn o ddyfarniadau ar hyd a lled y DU. Ymhob ardal neu wlad rydym wedi nodi nifer o flaenoriaethau daearyddol a chymdeithasol ar gyfer targedu cymorth datblygu, er mwyn annog ymgeiswyr tro cyntaf.
Gan ddibynnu ar faint y grant a geisir a’r rhaglen grant a ymgeisir amdano, efallai y bydd yn raid i ymgeiswyr ddarparu arian partneriaeth gyda eu cais. Ar gyfer grantiau hyd at £50,000 dylai ymgeiswyr gyfrannu gymaint ac y gallent unai yn ariannol, cyfraniadau eraill (er enghraifft deunyddiau a rhoddwyd) neu fel amser gwirfoddol. Ar gyfer grantiau o £1miliwn neu fwy, mae’n raid i ymgeiswyr ddarparu o leiaf 25% o gostau’r prosiect.
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.
Y broses ymgeisio (dyddiadau cau terfynol)
Gwellir gwneud ceisiadau i’n rhaglenni cyffredinol (Eich Treftadaeth, Gwreiddiau Ifanc a Grantiau Treftadaeth) ar unrhyw amser.
Ar gyfer grantiau o £50,000 neu lai, gellir disgwyl penderfyniad o fewn 10 wythnos o’r dyddiad rydym yn derbyn cais wedi ei gwblhau yn llawn. Fe asesir grantiau £50,000 mewn dwy rownd. Ar gyfer ceisiadau rownd-cyntaf fe gymerir tri mis i’w asesu a gwneir penderfyniad yn y cyfarfod nesaf posibl.
Mae gan ein rhaglenni targedol ddyddiadau cau gwahanol. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.
Rhaid i geisiadau gael eu gwneud gan sefydliadau di-elw.
Manylion cyswllt
Gallwch ffonio Cronfa Dreftadaeth y Loteri ar 029 2034 3413.
Astudiaethau achosCoed Cae Uncovered Divis and Black mountain The Power Project The Unseen Archive
Am fwy o wybodaeth ymwelwch â'r wefanwww.hlf.org.uk/welsh
|
|