Awgrymiadau chwilio
Mae llwyddiant pob chwiliad yn dibynnu ar gywirdeb y wybodaeth a gofnodwch am eich prosiect. Defnyddiwch y nodiadau cymorth i weld disgrifiad o bob un o’r atebion posibl. Gallwch ddod o hyd i’r nodiadau cymorth drwy roi clic ar y marc cwestiwn wrth bob ateb.
Yng nghwestiwn 1 dylech ddewis y wlad lle bydd y bobl fydd yn elwa o’r arian yn byw. Gall hwn fod yn wahanol i ble rydych chi wedi’ch seilio neu i’r lle y bydd y prosiect yn cymryd lle. Er enghraifft, os ydych wedi’ch seilio yn Lloegr ac y byddwch yn mynd a phlant o’r Alban dramor ar daith addysgol, dylech ddewis yr Alban, gan mai yno mae’r plant fydd yn cael budd o’r daith yn byw.
Os byddwch yn gweithio gyda phobl o fwy nag un wlad, dylech roi tic wrth bob gwlad sy’n addas.
Dim ond un ateb ddylech ei ddewis ar gyfer cwestiwn 2. Dewiswch yr un sy’n disgrifio’r sefydliad neu’r unigolyn fydd yn ceisio am y grant orau. Dylai ymgeiswyr cyd neu ymgeiswyr a hoffai ymgeisio fel consortiwm ddewis yr ateb sy’n disgrifio’r sefydliad arweiniol.
Yng nghwestiwn 3 gallwch ddewis pob allweddair sy’n gymwys i’ch prosiect. Defnyddiwch yr allweddeiriau sy’n disgrifio orau beth fydd eich prosiect yn ei wneud a sut y byddwch yn ei wneud. Dewiswch yr atebion sydd bwysicaf i’ch prosiect. Os na fydd canlyniadau eich chwiliad o ddefnydd i chi, gallwch redeg y chwiliad eto gyda llai neu fwy o allweddeiriau neu gan ddefnyddio rhai gwahanol.
Yng nghwestiwn 4 dylech ddewis yr ateb sy’n ffitio’r swm o arian yr ydych yn ymgeisio amdano – gall hwn fod yn wahanol i gostau llawn eich prosiect.
Canlyniadau chwiliad
Bydd y canlyniadau’n cael eu cyflwyno mewn trefn gweddu orau. Golyga hyn y byddwn yn rhoi canran ichi ar ba mor dda y parwyd eich allweddeiriau â’r rhaglenni ariannu. Bydd rhaglenni sydd â’r ganran uchaf yn cael ei rhestru gyntaf. Os oes gan ddau neu fwy o raglenni yr un canran, byddwn yn ei rhestru yn nhrefn yr wyddor. Gallwch argraffu canlyniadau eich chwiliad a gallwch roi clic o’r dudalen ganlyniadau i gael mwy o wybodaeth am bob rhaglen. Gan ein bod yn diweddaru ein chwiliad ariannu’n fisol, nid yw’n bosibl i chi arbed y canlyniadau.
Mae’n bosibl rhedeg nifer diderfyn o chwiliadau, felly os nad ydych yn hapus â chanlyniadau eich chwiliad, gallwch adolygu eich atebion a rhedeg chwiliad newydd.
Mae rhaglenni ariannu yn newid a bydd Arianwyr y Loteri yn diweddaru’r chwiliad ariannu’n fisol, felly yn hytrach na gweithio o ganlyniadau sydd wedi dyddio, rhowch gynnig ar redeg eich chwiliad eto os gwelwch yn dda.
Beth nesaf?
Dim ond gwybodaeth gyffredinol am raglenni addas y gall y chwiliad ei ddarparu. Mae rheolau arianwyr y Loteri ynglyn â’r hyn y gallant ac na allant ei ariannu’n amrywio ac mae ganddynt flaenoriaethau gwahanol dros y prosiectau y byddant yn eu hariannu. Mae’n bwysig ymchwilio rhaglen ariannu yn drylwyr cyn i chi ymgeisio ac rydym yn argymell i chi siarad â’r ariannwr Loteri ynghylch eich prosiect. Gallwch glicio o’r dudalen ganlyniadau i gael mwy o wybodaeth am y rhaglen yn ogystal â chael manylion cyswllt ar gyfer yr ariannwr Loteri perthnasol.
|