Yn dyfarnu arian Y Loteri Genedlaethol.

Arian y Loteri

Cymraeg | English   

Ffoniwch ni ar 0845 275 0000
Ffon testun 0845 275 0022


   
 

Geirfa

 

A | B | C | D | E | F | G | H | I | J | K | L | M | N | O | P | Q | R | S | T | U | V | W | X | Y | Z

 

A

Amrywiaeth

Mae arianwyr Loteri yn awyddus i weld pobl o ystod eang o gefndiroedd yn rhan o’r prosiectau yr ydym yn eu cefnogi. 

 

Amser prosesu

Y cyfnod rhwng cyflwyno cais gorffenedig hyd at ganfod os ydych wedi bod yn llwyddiannus a’i beidio. 

 

Arfarniad opsiynau

Dogfen allweddol wrth gynllunio prosiect sy’n ymwneud ag eiddo. Dylai roi manylion am yr holl opsiynau yr ydych wedi’u harchwilio ar gyfer eich eiddo, gan gynnwys rhentu, prydlesu, prynu neu atgyweirio a’r effaith pe na fyddai unrhyw beth yn digwydd. 

 

Ariannu Ôl-weithredol

Arian i weithgareddau/gwaith sy’n digwydd cyn i’r grant gael ei ddyfarnu. 

 

Arianwyr Loteri

Gelwir Arianwyr Loteri hefyd yn ddosbarthwyr (gweler y diffiniad o Ddosbarthwyr). 

 

Asesiad

Y feirniadaeth neu argymhelliad o’ch prosiect yn erbyn meini prawf y rhaglen ac arianwyr y Loteri. 

 

Astudiaeth dichonoldeb

Astudiaeth neu waith ymchwil i’ch cynorthwyo i ystyried pa mor realistig yw eich amcanion prosiect. 

 

 

 

Awarding funds from The National Lottery