Arian i Bawb
|
|
|
Y math o waith a noddir
Mae Arian i Bawb yn dod â phobl ynghyd i gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau cymunedol ac i’w mwynhau Os yw eich prosiect yn helpu i wella bywydau pobl, yn annog mwy o bobl i ymwneud â’u cymuned leol neu’n rhoi hwb i sgiliau neu greadigrwydd yna dyna’r math o beth rydym ni am ei noddi.
Ystod maint grantiau: lleiafswm – uchafswm
Gallwch wneud cais am rhwng £500 a £5,000
Mathau o gynllun (agored / caeedig / wedi’i dargedu)
Cynllun agored yw Arian i Bawb ar gyfer sefydliadau ddim er elw fel elusennau, grwpiau gwirfoddol a chymunedol, clybiau chwaraeon a sefydliadau celfyddydol. Mae Arian i Bawb yn ariannu prosiectau sy’n rhannu o dan benawdau eang. Y rhain yw: yr amgylchedd, addysg, iechyd, treftadaeth, chwaraeon, y celfyddydau a’r gymuned. Mae’r math o waith a’r mathau o grwpiau y gallwn eu noddi yn amrywio rhwng Lloegr, Gogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru, felly dylech wirio i weld beth sydd ar gael yn eich gwlad cyn i chi wneud cais.
Ardal ddaearyddol
Drwy’r Deyrnas Unedig i gyd.
Unrhyw feysydd blaenoriaeth a negeseuon allweddol (er enghraifft, arian partneriaeth)
Nodau Arian i Bawb yw:
- ymestyn mynediad a chyfranogiad
- cefnogi gweithgaredd cymunedol
- cynyddu sgiliau a chreadigrwydd
- gwella ansawdd bywyd
Rydym yn croesawu ceisiadau o bob sector o’r gymuned a phob rhan o’r DU. Rydym am gyflawni nodau Arian i Bawb ac anghenion penodol pob rhanbarth.
Y broses ymgeisio (dyddiadau cau terfynol)
Gallwch wneud cais i Arian i Bawb ar unrhyw adeg.
Unwaith y byddwn yn derbyn cais cyflawn rydym yn anelu i roi gwybod i chi beth yw ein penderfyniad o fewn wyth i ddeuddeg wythnos. Yn ogystal â’r ffurflen gais, sy’n fyr iawn, rhaid i ymgeiswyr anfon eu cyfansoddiad, set o’r cyfrifon blynyddol diweddaraf a datganiadau banc gwreiddiol i ni.
Manylion cyswllt canolog
I gael pecyn ymgeisio, ffoniwch 0845 600 20 40, neu ewch i’n gwefan www.arianibawb.org.uk i gael mwy o wybodaeth am Arian i Bawb.
Astudiaethau achosBlack Environment Network Community Garden Forth and Tay Disabled Ramblers Heartbeat Clwb Chwaraeon a Hwyl i Bobl Dros 50 oed Prosiect Pel-droed Wallsend
Am fwy o wybodaeth ymwelwch â'r wefanwww.arianibawb.org.uk
|
|