Cyngor Chwaraeon Cymru
|
|
|
|
Ni yw prif gynghorwr Llywodraeth Cynulliad Cymru mewn perthynas â phob mater yn ymwneud â chwaraeon ac rydym yn gyfrifol am ddosbarthu arian gan y Loteri Genedlaethol i chwaraeon yng Nghymru. Prif ffocws Cyngor Chwaraeon Cymru yw darbwyllo pobl nad ydynt yn ymarfer llawer i fod yn fwy egnïol ac annog pobl, hen ac ifanc, i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau corfforol i wella eu hiechyd a’u ffitrwydd.
|
|
|
Fe dderbyniodd y Veledrone Genedlaethol £7.5 miliwn o arian Loteri.
| |
|
Y math o waith a ariennir
Mae Cyngor Chwaraeon Cymru’n cyllido prosiectau sy’n datblygu chwaraeon a phrosiectau gweithgarwch corfforol ar lefel gyffredin neu’n helpu i gyflawni rhagoriaeth.
Ystod maint y grant: lleiafswm - uchafswm
Mae’r cynlluniau cyllido’n amrywio o gynllun y Gist Gymunedol sy’n cyllido prosiectau hyd at £750 bob cam drwodd i’r prosiectau cyfalaf mawr heb unrhyw uchafswm penodol.
Y mathau o gynlluniau (agored / caeedig / wedi’u targedu)
Mae gan Gyngor Chwaraeon Cymru gynlluniau agored, caeedig ac wedi’u targedu.
Ardal ddaearyddol
Cymru gyfan.
Unrhyw feysydd blaenoriaeth / negeseuon allweddol (er enghraifft, cyllid partneriaeth)
Ein prif nod yw cynyddu nifer y bobl sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Rydym eisiau cael pobl i fod yn fwy egnïol drwy gymryd rhan mewn amrywiaeth o wahanol weithgareddau i fod yn iachach. Ein blaenoriaethau yw:
- pobl ieuainc egnïol
- cymunedau egnïol
- datblygu pobl
- datblygu lleoedd
- datblygu perfformiad a rhagoriaeth.
Y broses ymgeisio (dyddiadau cau ffurfiol)
Gweler ein gwefan os gwelwch yn dda.
Manylion cyswllt canolog
Gerddi Sophia
Caerdydd
CF11 9SW
Ffôn: 029 2030 0500
Ffacs: 029 2030 0600
E-bost: scw@scw.co.uk
Astudiaethau achosWelsh Asians/Cardiff Gymkhana On the Move
Am fwy o wybodaeth ymwelwch â'r wefanwww.sports-council-wales.co.uk
|
|