Angen cymorth pellach?
Bydd yr adran hon yn rhoi gwybodaeth gyffredinol i chi a all eich helpu i ddechrau’r broses a’ch helpu i baratoi ffurflen gais i arianwyr y Loteri. Mae’r wybodaeth yn cynnwys tair adran sy’n cynnwys atebion i gwestiynau a ofynnir yn aml yn yr adran Cwestiynau ac Atebion, cyfres o daflenni gwybodaeth a chymorth pellach.
Gallwch gyrchu gwybodaeth sylfaenol fydd yn eich helpu chi i gynllunio eich prosiect neu i ddechrau sefydliad newydd drwy gyrchu’r taflenni gwybodaeth taflenni gwybodaeth. Gallwch glicio ar y daflen wybodaeth unigol ar gyfer pob maes sydd o ddiddordeb i chi. Mae pob taflen yn cynnwys trosolwg byr o’r pwnc a manylion cyswllt defnyddiol neu gyfeiriadau gwefannau sefydliadau perthnasol allai rhoi cyngor manwl i chi, ble bo hynny’n bosibl.
Efallai y byddwch am gysylltu â sefydliad arbenigol neu sefydliad cymorth yn eich ardal leol sy’n gallu rhoi gwybodaeth fanylach i chi ar bynciau penodol. Cliciwch ar Cymorth pellach ’ i edrych ar gysylltiadau a manylion cyswllt sefydliadau o’r fath.
Hefyd, dylech gysylltu â’ch ariannwr am fwy o wybodaeth am bolisïau a gweithdrefnau unigol ac am gyngor un i un.
|
|