Cyngor Celfyddydau Cymru
|
|
|
|
Sefydlwyd Cyngor Celfyddydau Cymru (CCC) ym 1994 trwy Siarter Frenhinol ac ef sy’n gyfrifol am gyllido a datblygu’r celfyddydau yng Nghymru. Caiff CCC gymorth grant oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru er mwyn cyllido’r celfyddydau yng Nghymru ac fel Corff Cyhoeddus a Noddir gan y Cynulliad, mae CCC yn atebol i Lywodraeth Cynulliad Cymru ynglŷn â’r modd y mae’r arian hwn yn cael ei wario.
|
|
|
Menter Pres Ifanc y Rhondda.
| |
|
Yn ogystal, CCC ydy un o ddosbarthwyr arian y Loteri i’r celfyddydau yng Nghymru a’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, a leolwyd yn Llundain, sy’n dyrannu arian y Loteri Genedlaethol i CCC.
Rheolir CCC gan ei Gyngor a phenodir yr aelodau hyn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Lleolir staff CCC mewn swyddfeydd ym Mae Colwyn, Caerfyrddin a Chaerdydd.
Math o waith a gyllidir
Rhaid i’r holl geisiadau fod ar gyfer gwaith sy’n adlewyrchu blaenoriaethau cyllido Cyngor Celfyddydau Cymru (CCC). Os nad ydych yn siŵr sut mae eich prosiect yn gweddu i’r blaenoriaethau hyn mae croeso i chi drafod y mater gyda swyddog CCC. Am fanylion llawn gweler ein “Canllawiau i Gyllid Cyngor Celfyddydau Cymru’ sydd ar gael o unrhyw un o swyddfeydd CCC neu yn ein gwefan.
Ystod maint grant: lleiafswm - mwyafswm
£250 - £50,000
Mathau o gynlluniau (agored/ caeedig/ a dargedir)
Grantiau Celfyddydol i Sefydliadau ac Unigolion:
Rhaid i bob ymgeisydd drafod y prosiect arfaethedig gyda swyddog CCC. Byddwn ond yn anfon ffurflen gais allan os fydd cynllun y prosiect wedi’i ddatblygu’n ddigonol ac yn gweddu i’n canllawiau.
Cwmpas Daearyddol
Grantiau Celfyddydol ar gyfer Sefydliadau
Er mwyn bod yn gymwys rhaid i’ch prosiect ddigwydd yng Nghymru, er y gall hyd at 15 y cant o’r costau teithio fod ar gyfer gweithgarwch mewn rhannau eraill o’r DU a gellir mynychu cyrsiau hyfforddi tu allan i Gymru.
Grantiau Celfyddydol ar gyfer Unigolion
Er mwyn bod yn gymwys, rhaid i’r ymgeiswyr fyw yng Nghymru a dangos ymroddiad i Gymru. Rhaid cynnal y prosiect arfaethedig yng Nghymru, er y gall hyd at 15 y cant o’r costau teithio fod ar gyfer gweithgarwch tu allan i Gymru a gellir mynychu cyrsiau hyfforddi tu allan i Gymru yn ogystal.
Unrhyw ardaloedd o flaenoriaeth/ negeseuon allweddol (e.e. arian partneriaeth)
Yn ogystal â’r blaenoriaethau hyn byddwn yn ystyried prosiectau a gynhelir mewn ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf, prosiectau a gynhelir yn y Gymraeg neu rai dwyieithog a phrosiectau sy’n hybu cyfleoedd cyfartal.
Grantiau Celfyddydol ar gyfer Sefydliadau
- Cynhyrchu neu gefnogi rhaglen
- cyfranogi
- y celfyddydau a phobl ifanc
- cynaliadwyaeth
- hyfforddiant a datblygiad proffesiynol
Grantiau Celfyddydol ar gyfer Unigolion
- prosiectau sy’n cynnwys partneriaethau creadigol rhwng artistiaid a sefydliadau
- prosiectau cychwynnol gan artistiaid newydd
- prosiectau creadigol gan artistiaid sydd wedi sefydlu eu hunain
- prosiectau creadigol a datblygu gan artistiaid anabl ac artistiaid duon a lleiafrifoedd ethnig
- Hyfforddiant i artistiaid sydd eisiau gweithio gydag amddifadedd cymdeithasol neu gymunedau sydd mewn perygl o gael eu heithrio’n gymdeithasol
- Prosiectau datblygiad proffesiynol i artistiaid
Proses Ymgeisio (dyddiadau cau ffurfiol)
Ceir cyfres o ddyddiau cau yn ystod 2005-2006 ar gyfer y gwahanol fathau o grantiau sydd ar gael. Ewch i’n gwefan am ragor o fanylion.
Manylion cyswllt canolog
Mae pob un o’n swyddfeydd yn delio ag ymholiadau ynglŷn â chyllid:
Swyddfa De Cymru
9 Stryd yr Amgueddfa
Caerdydd
CF10 3NX
Ffôn: 029 2037 6525
Ffacs: 029 2022 1447
Ffôn testun: 029 2039 0027
de@celfcymru.org.uk
Swyddfa Canolbarth a Gorllewin Cymru
6 Gardd Llydaw
Lôn Jackson
Caerfyrddin SA31 1QD
Ffôn: 01267 234 248
Ffacs: 01267 233 084
Ffôn testun: 01267 223 496
canolbarthagorllewin@celfcymru.org.uk
Swyddfa Gogledd Cymru
36 Rhodfa’r Tywysog
Bae Colwyn
LL29 8LA
Ffôn: 01492 533 440
Ffacs: 01492 533 677
Ffôn testun: 01492 532 288
gogledd@celfcymru.org.uk
|