|
Beth yw’r prosiect?
Prosiect yw hwn i ddarparu mynediad i’r cyhoedd i archif ffotograffau papur newydd yr East Anglian Daily Times; mae’r archif yn cwmpasu bywyd yn Suffolk yn ystod y 50 mlynedd diwethaf.
Bydd y prosiect yn helpu i ddatblygu’r archif fel adnodd addysgiadol i ysgolion a grwpiau cymunedol lleol. Bydd lluniau wedi’u digido ar gael ar-lein drwy gyfrwng gwefan fydd wedi ei llunio’n arbennig.
Mae’r ffotograffau’n cynnwys darluniau o ryfel, tywydd mawr anarferol, ffeiriau pentref, ymweliadau gan y teulu brenhinol yn lleol a llawer, llawer mwy!
Mae’r prosiect wedi helpu i ariannu swyddog prosiect i gydlynu’r cynllun.
Pwy roddodd yr arian?
Cronfa Dreftadaeth y Loteri
Beth oedd y rhaglen grant?
Eich Treftadaeth – ar gyfer grantiau o £5,000 i £50,000.
Faint o arian a roddwyd?
Rhoddodd Cronfa Dreftadaeth y Loteri £35,800. Roedd cyfanswm costau’r prosiect yn £47,000; rhoddodd Cyngor Sir Suffolk y gweddill yn gymorth ariannol a chyfraniadau ar ffurf nwyddau.
Ble mae’r prosiect wedi’i leoli?
Ipswich yn Suffolk. Ond gall unrhyw un gael mynediad at y prosiect drwy gyfrwng y Rhyngrwyd.
Pam roedd hwn yn brosiect mor dda?
Mae’r prosiect hwn yn rhoi dehongliad unigryw o dreftadaeth leol trwy gyfrwng lluniau ac yn helpu i’w warchod ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol; drwy gyfrwng y wefan, bydd cynulleidfa hollol newydd yn gallu dysgu am eu treftadaeth leol.
Mae’r prosiect yn fwy na gwefan yn unig (Ar y cyfan nid yw Cronfa Dreftadaeth y Loteri’n fodlon ariannu prosiectau sy’n canolbwyntio’n gyfan gwbl ar fynediad ar-lein). Un rhan yw’r wefan o raglen ymestyn barhaus i roi’r cyfle i unrhyw un ddysgu am eu treftadaeth. Mae plant ysgol wedi bod yn digido ffotograffau ac yn gwneud gwaith yn y dosbarth ar beth maen nhw wedi’i ddarganfod; gofynnir i bobl leol rannu eu hatgofion am ddigwyddiadau sydd wedi eu dal ar ffilm; mae gwirfoddolwyr yn cael eu recriwtio i helpu i archwilio’r archif; a rhoddir sylw i luniau sy’n dod i’r fei yn yr archif ym mhapur newydd yr East Anglian Daily Times. Mae cynlluniau ar y gweill hefyd i arddangosfa o luniau deithio o gwmpas llyfrgelloedd lleol.
Bu’r prosiect hwn yn llwyddiannus am ei fod yn bodloni’r meini prawf ar gyfer y rhaglen grant; ond yn fwy na hynny, roedd yn greadigol wrth feddwl pwy fyddai’n elwa o’r prosiect a beth fyddai’r ffordd orau i sicrhau’r budd hwnnw. Wrth wneud hynny, mae hefyd wedi helpu i warchod a gwella enghraifft ryfeddol o’n treftadaeth amrywiol.
Ble galla i gael gwybod mwy?
www.unseenarchive.co.uk
For more information visit the website:www.unseenarchive.co.uk -----
Return to Lottery Funders list
|