Yn dyfarnu arian Y Loteri Genedlaethol.

Arian y Loteri

Cymraeg | English   
 

Cronfa Loteri Fawr


Big Lottery Fund logo

Ffurfiwyd y Gronfa Loteri Fawr yn sgil uno’r Gronfa Cyfleoedd Newydd a’r Gronfa Gymunedol.  Rydym yn dosbarthu hanner yr arian a godir gan y Loteri Genedlaethol i achosion da. Ar hyn o bryd rydym yn dosbarthu tua £600 miliwn y flwyddyn. 

 

Y math o waith a noddir

Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn rhoi grantiau i brosiectau sy’n gwella iechyd, addysg a’r amgylchedd ac yn cefnogi grwpiau gwirfoddol, gan helpu’r rhai mwyaf anghenus.  

Mae Heartstone yn Glasgow yn ymladd yn erbyn hiliaeth ymysg pobl ifanc.

Rydym yn defnyddio arian y Loteri i helpu i wneud newidiadau mawr, cadarnhaol i gymunedau. 

 

Pa un a ydym yn rhoi grantiau llai i grwpiau lleol neu’n noddi prosiectau mawr, cenedlaethol sy’n ‘trawsnewid', rydym am adfywio ac adfywiogi cymunedau, gyda phwyslais arbennig ar fynd i’r afael ag anfantais. 

 

Ystod maint grantiau:  lleiafswm – uchafswm

Bydd y Gronfa Loteri Fawr yn lansio amrywiaeth o raglenni newydd ar gyfer Lloegr rhwng  hydref 2005 a gwanwyn 2006.  Bydd cyhoeddiadau mwy manwl am raglenni yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon yn dilyn yn hwyrach ymlaen yn y flwyddyn. 

 

Mathau o gynllun (agored / caeedig / wedi’i dargedu)

Ardal ddaearyddol  

 

Drwy’r DU yn gyfan a thramor  

Unrhyw feysydd blaenoriaeth / negeseuon allweddol (e.e. arian  partneriaeth)

Mae’r Gronfa Loteri Fawr wedi’i ymrwymo i wella cymunedau a bywydau y bobl mwyaf anghenus.  Mae ffocws clir gennym i noddi prosiectau a rhaglenni o fewn tair thema allweddol. Y rhain yw:  

 

  • cefnogi dysgu yn y gymuned a chreu cyfleoedd
  • hyrwyddo diogelwch cymunedol a chydlyniant
  • hyrwyddo lles.

 

Y broses ymgeisio (dyddiadau cau terfynol)

Gweler ein gwefan am ragor o fanylion 

 

Manylion cyswllt canolog

Cronfa Loteri Fawr 

1 Plough Place 

Llundain 

EC4A 1DE 

0845 4 10 20 30 


 

Am fwy o wybodaeth ymwelwch â'r wefan

www.cronfaloterifawr.org.uk

 

 


Ariannu

 

Chwiliad ariannu

 

Awarding funds from The National Lottery