Yn dyfarnu arian Y Loteri Genedlaethol.

Arian y Loteri

Cymraeg | English   
 

Cronfa Dreftadaeth y Loteri


Heritage Lottery Fund logo

Gan ddefnyddio arian a godwyd drwy’r Loteri Genedlaethol, mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL) yn cynnal a gweddnewid ystod eang o dreftadaeth ar gyfer y cenedlaethau presennol a’r rhai sydd i ddod er mwyn iddynt gael profiad ohonynt, dysgu drwyddynt a’u mwynhau. O amgueddfeydd, parciau a lleoedd hanesyddol i archaeloeg, yr amgylchedd naturiol a thraddodiadau diwylliannol, rydym yn buddsoddi ym mhob rhan o’n treftadaeth amrywiol. Mae CDL wedi dyfarnu dros £4.4 biliwn mewn grantiau i brosiectau treftadaeth ar hyd a lled y DU.

Retired pilots standing by a fighter plane. © Heritage Lottery Fund
Peilotiaid yn yr Amgueddfa Rhyfel Ymerodrol, Duxford.

Y math o waith a noddir

Mae gan CDL dri nod sydd yn ymwneud â dysgu, cadwraeth a chyfranogiad. Drwy roi grantiau ein nod yw: 

  • diogelu treftadaeth amrywiol y DU er mwyn i’r cenedlaethau presennol a’r cenedlaethau sydd i ddod gael profiad ohonynt a’u mwynhau;
  • helpu mwy o bobl, ac ystod ehangach o bobl, i chwarae rhan weithredol mewn gwneud penderfyniadau ynglyn â’u treftadaeth;
  • helpu pobl i ddysgu ynglyn â’u treftadaeth eu hunain a threftadaeth pobl eraill.

 

Ystod maint grantiau: lleiafswm – uchafswm

Mae gan CDL ystod o raglenni ar gyfer prosiectau treftadaeth o bob math a maint. Rydym yn cynnig grantiau o £3,000 i ddyfarniadau sawl miliwn o bunnoedd. 

 

Mathau o gynllun (agored / caeedig / wedi’i dargedu)

Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri’n cynnig cyfuniad o raglenni grantiau cyffredinol, ynghyd â mentrau wedi eu targedu at feysydd treftadaeth neu themâu penodol. Ffoniwch ni am fwy o wybodaeth. 

 

Ardal ddaearyddol

Gallwn ddyfarnu grantiau drwy’r DU i gyd (heblaw am Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw). 

Mae gennym 11 swyddfa drwy’r DU i gyd gan gynnwys swyddfeydd yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. 

 

Meysydd blaenoriaeth a negeseuon allweddol (er enghraifft, arian partneriaeth)

Mae CDL yn cynnig cyngor a chefnogaeth cyn gwneud cais drwy ein tîmau lleol ac yn ymrwymiedig i weithio tuag at ledaeniad cyfiawn o ddyfarniadau ar hyd a lled y DU. Ymhob ardal neu wlad rydym wedi nodi nifer o flaenoriaethau daearyddol a chymdeithasol ar gyfer targedu cymorth datblygu, er mwyn annog ymgeiswyr tro cyntaf. 

 

Gan ddibynnu ar faint y grant a geisir a’r rhaglen grant a ymgeisir amdano, efallai y bydd yn raid i ymgeiswyr ddarparu arian partneriaeth gyda eu cais.  

 

Ar gyfer grantiau hyd at £50,000 dylai ymgeiswyr gyfrannu gymaint ac y gallent unai yn ariannol, cyfraniadau eraill (er enghraifft deunyddiau a rhoddwyd) neu fel amser gwirfoddol. Ar gyfer grantiau o £1miliwn neu fwy, mae’n raid i ymgeiswyr ddarparu o leiaf 25% o gostau’r prosiect. 

 

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth. 

 

Y broses ymgeisio (dyddiadau cau terfynol

Gwellir gwneud ceisiadau i’n rhaglenni cyffredinol (Eich Treftadaeth, Gwreiddiau Ifanc a Grantiau Treftadaeth) ar unrhyw amser. 

Ar gyfer grantiau o £50,000 neu lai, gellir disgwyl penderfyniad o fewn 10 wythnos o’r dyddiad rydym yn derbyn cais wedi ei gwblhau yn llawn. Fe asesir grantiau £50,000 mewn dwy rownd. Ar gyfer ceisiadau rownd-cyntaf fe gymerir tri mis i’w asesu a gwneir penderfyniad yn y cyfarfod nesaf posibl. 

Mae gan ein rhaglenni targedol ddyddiadau cau gwahanol. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth. 

Rhaid i geisiadau gael eu gwneud gan sefydliadau di-elw. 

 

Manylion cyswllt

Gallwch ffonio Cronfa Dreftadaeth y Loteri ar 029 2034 3413 


Astudiaethau achos

Coed Cae Uncovered
Divis and Black mountain
The Power Project
The Unseen Archive

 

Am fwy o wybodaeth ymwelwch â'r wefan

www.hlf.org.uk/welsh

 

 


Ariannu

 

Chwiliad ariannu

 

Awarding funds from The National Lottery