|
Yn yr Alban talodd arian y Loteri i’w grŵp drefnu diwrnod hyfforddiant, oedd yn cynnwys cynnal gweithdy Cwilt Un Byd.
Pwy roddodd yr arian?
Arian i Bawb
Beth oedd y rhaglen grant ?
Mae Arian i Bawb yn cynnig grantiau o rhwng £500 a £5,000 ar gyfer amrywiaeth eang o weithgareddau cymunedol.
Faint o arian roddwyd?
£4,860
Ble mae’r prosiect wedi’i leoli?
Caeredin
Pam roedd hwn yn brosiect mor dda?
Rhoddai’r prosiect hwn y cyfle i’r rhai oedd yn cymryd rha i feddwl a siarad am eu hamgylchfyd lleol. Wrth i bobl weithio gyda’i gilydd i wneud cwilt o ddeunyddiau wedi eu hailgylchu, roeddent yn cael eu hannog i siarad am broblemau lleol ac i drafod atebion mewn ffordd newydd, greadigol. Roedd hyn yn eu helpu i deimlo’n rhan o’r gymuned leol.
Ble galla i gael gwybod mwy?
Mae gwybodaeth am y cynllun hwn ar gael yn www.arianibawb.org.uk a gellir cael pecynnau cais drwy ffonio 0845 600 20 40.
-----
Return to Lottery Funders list
|