Enw’r prosiect
‘Wasp’
Pwy yw’r ymgeisydd?
Cowboy Films
Beth yw’r prosiect?
Ffilm fer 23 munud. Mae Zoe, mam sengl yn ceisio noson o ryddid gyda hen gariad, ond mae ei dyheadau rhamantaidd yn cael eu rhwystro gan ei phedwar plentyn ifanc sy’n aros amdani y tu allan ym maes parcio’r dafarn.
Pwy roddodd yr arian?
Cronfa Sinema Newydd Cyngor Ffilm y DU
Beth oedd y rhaglen grant?
Cynllun ffilmiau byr ‘Cinema Extreme’ wedi’i ariannu ar y cyd gan Gronfa Sinema Newydd Cyngor Ffilm y Du a Film Four. Crëwyd y cynllun yn 2002 i annog a datblygu cyfarwyddwyr a chanddynt lais cyfarwyddol unigryw a dawn sinematig.
Faint o arian roddwyd?
Derbyniodd y prosiect gyfanswm cyllideb cynhyrchu o £53,250, rhoddwyd pum deg y cant o hwn gan y Gronfa Ffilm Newydd a’r gweddill gan Film Four. Roedd arian ychwanegol ar gael gan Gyngor Ffilm y DU er mwyn talu am hawliau cerddoriaeth ac i hyrwyddo’r ffilm mewn gwyliau cenedlaethol.
Ble mae’r prosiect wedi’i leoli?
Cafodd y ffilm ei saethu yn Dartford, Kent, a’r cyffiniau. Mae’r cynllun ‘Cinema Extreme’ ar gael i wneuthurwyr ffilmiau a chwmnïau cynhyrchu sydd wedi’u lleoli yn y DU.
Pam roedd hwn yn brosiect mor dda?
Mae’r ffilm derfynol wedi cael ei chanmol i’r entrychion gan y beirniaid ac wedi ennill 36 o wobrau mewn gwyliau ffilm rhyngwladol, gan gynnwys Oscar® 2005 am y Ffilm Fer ‘Live Action’ orau.
Mae’r ffilm wedi sefydlu Andrea Arnold, y gyfarwyddwraig, yn gadarn fel un o dalentau cyfarwyddo addawol mwyaf diddorol y DU. Pan ddangoswyd hi gyntaf yng Ngŵyl Ffilm Caeredin, denodd y ffilm ddiddordeb cwmnïau Ffilm Zentropa Denmarc a Sigma Films Yr Alban, ac o ganlyniad cafodd Andrea ei chomisiynu i weithio ar ei Ffilm hyd llawn cyntaf ‘Advance Party’.
Bu ‘Wasp’ hefyd yn fodd i roi cychwyn i yrfa Nathalie Press, sy’n chwarae rhan Zoe yn y ffilm. Mae Nathalie wedi cael canmoliaeth enfawr am ei rhan yn ‘My Summer of Love’, mae ganddi brif ran yn ffilm ‘Chromophobia’ Martha Fiennes ac mae’n ymddangos yn ‘Bleak House’ y BBC.
|