Yn dyfarnu arian Y Loteri Genedlaethol.

Arian y Loteri

Cymraeg | English   
 

World Track Cycling


Location: England

 

 

Enw’r prosiect

Pencampwriaethau Seiclo Trac y Byd  2005 

 

Beth yw’r prosiect?

Fe ariannodd UK Sport athletwyr o dîm seiclo Prydain i gystadlu am bencampwriaethau byd yn Los Angeles ym mis Mawrth 2005.   Rydym yn ariannu 29 o chwaraeon Olympaidd a  phara Olympaidd er mwyn gwneud yn siŵr fod  athletwyr â gobaith gwirioneddol o ennill medal mewn prif bencampwriaethau yn cael pob cefnogaeth sydd ei hangen arnynt i i gystadlu ac ennill ar y lefel uchaf. Cynlluniwyd y rhaglenni i bara dros gyfnod o bedair blynedd, sef Olympiad fel arfer, ac mae’r arian yn talu am wahanol feysydd o ran paratoi gan gynnwys hyfforddiant gan rai o’r hyfforddwyr gorau yn y byd, cefnogaeth gwyddoniaeth chwaraeon a meddygaeth, rhaglenni datblygu athletwyr a chyfleusterau hyfforddi priodol. 

 

Pwy roddodd yr arian?

Chwaraeon DU  

 

Beth oedd y rhaglen grant ?

Rhaglen Perfformiad Safon Byd  

 

Faint o arian roddwyd?

Bydd Seiclo Prydain (British Cycling) yn derbyn cyfanswm o £7,920,000 o gyfnod sy’n ymestyn o 2005 tan ar ôl Chwaraeon Olympaidd Beijing yn 2008.  

 

Pam roedd hwn yn brosiect mor dda?

Mae seiclo yn un o’r chwaraeon blaenoriaeth, ynghyd â chwaraeon fel athletau, rhwyfo a hwylio, ac mae’r meini prawf blaenoriaeth ar gyfer y rhain yn cynnwys y posibilrwydd o ennill medal. Llwyddodd tîm Prydain Fawr i ennill pedair medal aur yn ystod Pencampwriaethau Seiclo Trac y Byd 2005, a daeth dau o bob tri o’r sgwad adref gyda theitl Pencampwr Byd. 

 

 

Ble galla i gael gwybod mwy?

www.uksport.gov.uk  

 

 

-----

[Extension 'ext-lottery-case-studies' (21783) on page 'Wales/uk-sport-cycling-case-study'] Line 24: LoadById: Wrong type. Please specify numeric argument.

Return to Lottery Funders list

Ariannu

 

 

Awarding funds from The National Lottery