Yn dyfarnu arian Y Loteri Genedlaethol.

Arian y Loteri

Cymraeg | English   
 

Welsh Asians/Cardiff Gymkhana


Location: Wales

 

 

Enw’r prosiect

Asiaid Cymru / Gymkhana Caerdydd 

 

Pwy yw’r ymgeisydd?

Clwb Criced Asiaidd Cymru 

 

Beth yw’r prosiect?

Mae’r cymunedau Asiaidd yng Nghaerdydd wedi chwarae rhan flaenllaw mewn criced ar lefel hŷn ers blynyddoedd lawer, gyda sawl clwb yn y gynghrair ganol wythnos a phenwythnos.  Mae’n bur debyg mai criced yw’r gamp fwyaf poblogaidd yn y cymunedau hyn, gan adlewyrchu ei phoblogrwydd yn y gwledydd y mae aelodau’r cymunedau wedi tarddu ohonynt.   

Young boy playing cricket.  ©  Sports Council for Wales
Mae criced yn chwaraeon poblogaidd ymysg cymunedau Asiaidd Caerdydd.

Roedd dau o glybiau’r uwch-gynghrair, Asiaid Cymru a Gymkhana Caerdydd, eisiau cyllid i ddatblygu eu chwaraewyr iau.  Roedd y clybiau angen adran i ieuenctid ac offer chwaraeon newydd ac roeddent yn dymuno hyfforddi aelodau dethol i fod yn hyfforddwyr cymwys. 

 

Roedd Cymdeithas Hyfforddwyr Criced Caerdydd a’r Fro a Rhaglen Fyw’n Iach Grangetown a Thre-Bute yn ymwneud â’r prosiect.  Darparwyd prosiect hyfforddi lleol ar lefel gyffredin ganddynt. 

 

Pwy roddodd yr arian?

Cyngor Chwaraeon Cymru 

 

Beth oedd y rhaglen grant?

Cist Gymunedol SPORTLOT 

 

Faint o arian a roddwyd?

£750 

 

Ymhle mae’r prosiect wedi’i leoli?

Caerdydd 

 

Pam fod y prosiect hwn mor dda?

Mae’r prosiect yn agor drysau newydd ar gyfer cymryd rhan mewn chwaraeon, yn arbennig i bobl ieuainc yn byw yn ardaloedd dinesig canol Caerdydd.  Mae’r cais yn targedu maes blaenoriaeth ar gyfer derbyn cefnogaeth - cymunedau Duon a lleiafrifoedd ethnig.  Mae’r clwb criced wedi datblygu rhaglen gynaladwy a gyflwynir drwy gyfrwng arweinwyr a hyfforddwyr gwirfoddol.  Cyllidwyd cymwysterau hyfforddi a chymorth cyntaf ar gyfer y gwirfoddolwyr gan grant y Gist Gymunedol.  Mae’r dyfarniad yn darparu offer hanfodol ar gyfer y clwb i chwaraewyr ieuainc newydd.   

 

Roedd hwn yn gais da a fydd o gymorth i dwf criced mewn ardal ddinesig ac yn datblygu cyfleoedd newydd i gymunedau Duon a lleiafrifoedd ethnig.  Mae’n bur debyg na fyddai’r rhaglen wedi cael ei chynnal heb gyllid y Loteri.  

 

Ble mae cael gwybodaeth bellach?

www.cyngor-chwaraeon-cymru.co.uk 

 

 

-----

[Extension 'ext-lottery-case-studies' (21783) on page 'Wales/scw-welsh-asians-case-study'] Line 24: LoadById: Wrong type. Please specify numeric argument.

Return to Lottery Funders list

Ariannu

 

 

Awarding funds from The National Lottery