|
Beth yw’r prosiect?
Quarry Bank Mill, a sefydlwyd yn 1784, oedd un o’r melinau nyddu cotwm pŵer dŵr cyntaf. Bydd y prosiect hwn yn adfer yr adeiladau hanesyddol yn Quarry Bank Mill ac yn gwella’r profiad i ymwelwyr yn fawr, gan gynnwys arddangosfa’r felin o beiriannau diwydiannol grym ager.
Mae traean yr adeiladau hanesyddol ar y safle wedi cael eu trwsio a’u hadfer ac yn agored i’r cyhoedd.
Pwy roddodd yr arian?
Cronfa Dreftadaeth y Loteri
Beth oedd y rhaglen grant?
Grantiau Treftadaeth – ar gyfer grantiau o £50,000 a mwy.
Faint o arian a roddwyd?
Dyfarnwyd swm o £537,000. Roedd cyfanswm cost y prosiect dros £800,000; darparodd y prosiect y gweddill o ffynonellau nawdd eraill.
Ble mae’r prosiect wedi’i leoli?
Styal, ger Wilmslow yn Swydd Gaer.
Pam roedd hwn yn brosiect mor dda?
Helpodd y prosiect i warchod safle treftadaeth ddiwylliannol bwysig, yn ogystal в gwella mynediad i ymwelwyr a dealltwriaeth o’r dreftadaeth. Mae’r prosiect wedi ychwanegu dros 300 metr sgwвr o ofod arddangos, sydd wedi cynyddu cyflwyniad Quarry Bank Mill o rфl pŵer dŵr a stкm yn y chwyldro diwydiannol yn fawr iawn. Gall ymwelwyr weld peiriannau tecstilau o’r 19fed ganrif yn gweithio a gwylio melin ddŵr fwyaf pwerus Prydain ar waith.
Darparodd y prosiect ffigyrau ymwelwyr realistig gyda’u cais (mae tua 120,000 o ymwelwyr yn dod i Quarry Bank Mill bob blwyddyn, tua 40,000 ohonynt yn blant ysgol), gan gynnwys sut gallai’r prosiect hwn helpu i gynyddu nifer yr ymwelwyr. Roedd y prosiect hefyd yn defnyddio sgiliau staff cyfredol a gwirfoddolwyr i helpu i ddatblygu’r prosiect.
Ble galla i gael gwybod mwy?
www.quarrybankmill.org.uk
For more information visit the website:www.quarrybankmill.org.uk -----
[Extension 'ext-lottery-case-studies' (21783) on page 'Wales/hlf-power-project'] Line 24: LoadById: Wrong type. Please specify numeric argument. Return to Lottery Funders list
|