|
Me’r prosiect wedi agor y mynydd i’r cyhoedd trwy ddarparu mynediad yn rhad ac am ddim ynghyd ag arwyddion a deunydd dehongli i helpu pobl i ddysgu mwy am hanes y mynydd, rhostir yr ucheldir a’r gweddillion archeolegol ar y safle. Roedd y prosiect hefyd yn cynnwys sefydlu rhaglen wirfoddoli i bobl allu cymryd rhan mewn rheoli a chynnal y mynydd.
Pwy roddodd yr arian?
Cronfa Dreftadaeth y Loteri
Beth oedd y rhaglen grant?
Grantiau Treftadaeth – ar gyfer grantiau dros £50,000 ac uwchlaw hynny
Faint o arian a roddwyd?
£1.33miliwn.
Cyfanswm costau’r prosiect oedd £2.9 miliwn
Rhoddodd Gwasanaeth yr Amgylchedd a Threftadaeth £600,000
Cyfrannodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol £1miliwn tuag at y prosiect.
Ble mae’r prosiect wedi’i leoli?
Belfast
Pam oedd hwn yn brosiect mor dda?
Bu mynydd Divis ar gau i’r cyhoedd am dros 30 mlynedd gan ei fod yn cael ei ddefnyddio fel canolfan filitaraidd a chyfathrebu ddiogel ac mae’r prosiect hwn wedi helpu i sicrhau ei ddyfodol fel ardal mynediad agored i bobl Gogledd Iwerddon.
Gwelir Bryniau Belfast yn y cefndir o ganol dinas Belfast ac mae pawb a fagwyd yno wedi bod yn ymwybodol o’u presenoldeb cysurlon. Mynydd Divis yw un o’r rhai mwyaf amlwg o fewn bryniau Belfast ac mae’n rhan amlwg a phwysig o’r dirwedd yn lleol. Yn anffodus, er bod pobl Belfast yn gallu edrych i fyny i’r mynyddoedd nid oeddynt yn gallu eu dringo, ond gyda chymorth cyllid Cronfa Dreftadaeth y Loteri, mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi prynu’r mynyddoedd a’u gwneud yn agored i bawb.
Mae’r prosiect wedi cynnwys y gymuned leol o’r cychwyn cyntaf, mewn gwneud penderfyniadau am ddyfodol y mynydd ac yn y gwaith cadwraeth ymarferol a wnaed ers prynu’r safle. Mae gwirfoddolwyr wedi bod wrthi’n barod yn helpu i glirio’r safle ac i adeiladu llwybr ‘symudol’ i gopa’r Mynydd Du. Cynlluniwyd rhaglen o weithgareddau ar gyfer gwirfoddolwyr a gwaith addysg ar gyfer y safle.
Mae’r safle’n bwysig hefyd oherwydd y bioamrywiaeth a geir yno, rhostir yr ucheldir sy’n brin a llawn trysorau ac amgylchedd y gorgors, y gweddillion archeolegol sy’n dal i gael eu canfod, agweddau treftadaeth ddiwylliannol blynyddoedd y gwrthdaro yng Ngogledd Iwerddon a chadwraeth Bryniau Belfast.
Ceir golygfa ysblennydd o ddinas Belfast o’r mynyddoedd ar ddiwrnod clir a’r olygfa’n ymestyn draw ar draws y rhan fwyaf o Ogledd Iwerddon. Mae’r ffaith eu bod yn hawdd eu cyrraedd o ganol y ddinas a’i hardaloedd poblog iawn yn golygu fod y prosiect yn rhoi dihangfa naturiol, dawel i bobl Belfast. Mae’r safle wedi bod yn boblogaidd tu hwnt ers ei agor gyda cherddwyr brwd, rhai â diddordeb mewn bywyd gwyllt a thwristiaid chwilfrydig yn eu tro.
Ble galla i gael gwybod mwy?
Gwefan Gogledd Iwerddon yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol:
www.nationaltrust.org.uk/main/w-global/w-localtoyou/w-northernireland
Neu safle penodol
www.nationaltrust.org.uk/main/w-global/w-localtoyou/w-northernireland/w-northernireland-places_visit/w-northernireland-places_visit-divis.htm
For more information visit the website:www.nationaltrust.org.uk/main/w-global/w-localtoyou/w-northernireland/w-northern -----
[Extension 'ext-lottery-case-studies' (21783) on page 'Wales/hlf-divis-case-study'] Line 24: LoadById: Wrong type. Please specify numeric argument. Return to Lottery Funders list
|