Yn dyfarnu arian Y Loteri Genedlaethol.

Arian y Loteri

Cymraeg | English   
 

Coed Cae Uncovered


Location: Wales

 

 

Enw’r prosiect

Mythau, Gweithfeydd Glo ac Atgofion : Datgelu Coed Cae  

 

 

Pwy yw’r ymgeisydd?

Celfyddydau Cymunedol Rhyng-ddiwylliannol De Cymru   

Girl doing charcoal drawing. © Heritage Lottery Fund
Roedd gweithdai Coed yn cynnwys lluniau siarcol a phypedwaith.

Beth yw’r prosiect?

Prif nod y prosiect oedd ailgyflwyno ei threftadaeth a’i thraddodiadau ei hun i gymuned Coed Cae; gan ganolbwyntio ar effaith y chwyldro diwydiannol yn yr ardal, ac etifeddiaeth y Parchedig Edmund Jones oedd yn bregethwr ac a fu’n casglu storпau cyfriniol ddiwedd yr 18fed a dechrau’r 19eg ganrif. 

 

Yn ogystal в phregethu yn ardal y Blaenau ac Abertyleri, casglai Edmund Jones storпau a nodiadau am ddifyrion a thraddodiadau gan bobl ei blwyf. Glowyr oedd y mwyafrif o’r bobl hyn a chanolbwyntiai ei nodiadau’n aml ar eu bywydau emosiynol a chorfforol heriol yn y pyllau glo. 

 

Ymhlith y rhai a fu’n cymryd rhan roedd dwy ysgol gynradd leol, y Gymdeithas Gymunedol, clybiau ieuenctid a’r grŵp treftadaeth lleol. Roeddent yn ymwneud в’r prosiect drwy gymryd rhan mewn gweithdai celf i ddathlu. Roedd y prosiect yn cynnwys 10 wythnos o weithgareddau gan gynnwys trin pypedau, dawns, cerddoriaeth a drama.  Casglwyd hanesion llafar gan y gymuned a’u cyfuno gyda chofnodion hanesyddol o’r archif a gasglwyd gan Grŵp Treftadaeth Blaenau. Defnyddiwyd y wybodaeth hon i greu delweddau, pypedau, lanterni, masgiau, penwisgoedd a chefndiroedd yn dangos cyffro’r Chwyldro Diwydiannol a’i ganlyniadau. 

 

Pwy roddodd yr arian?

Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru 

 

Beth oedd y rhaglen grant?

Cronfa Eich Treftadaeth y Loteri  

 

Faint o arian a roddwyd?

£50,000 o gyfanswm cost y prosiect, sef £58,500 

 

Ble mae’r prosiect wedi’i leoli?

Coed Cae, Blaenau Gwent 

 

Pam roedd hwn yn brosiect mor dda?

Bu’r prosiect yn llwyddiannus am ei fod yn cwrdd в blaenoriaethau’r rhaglen Eich Treftadaeth o ran ei fod yn galluogi croestoriad o’r gymuned i fod yn gysylltiedig в’r prosiect, a’i fod ar yr un pryd yn rhoi cyfleoedd ychwanegol i bawb ddysgu am eu treftadaeth. 

 

Ble galla i gael gwybod mwy?

www.swica.co.uk 

 

 

-----

[Extension 'ext-lottery-case-studies' (21783) on page 'Wales/hlf-coed-cae-case-study'] Line 24: LoadById: Wrong type. Please specify numeric argument.

Return to Lottery Funders list

Ariannu

 

 

Awarding funds from The National Lottery