Yn dyfarnu arian Y Loteri Genedlaethol.

Arian y Loteri

Cymraeg | English   
 

Forth and Tay Disabled Ramblers


Location: Scotland

 

 

Enw’r prosiect

Forth and Tay Disabled Ramblers 

 

Pwy yw’r ymgeisydd?

Forth and Tay Disabled Ramblers 

 

Beth yw’r prosiect?

Mae’r Forth and Tay Disabled Ramblers yn rhoi cyfleoedd i bobl ag anableddau ddod at ei gilydd am deithiau cerdded rheolaidd, gyda sgwteri trydan, cadeiriau olwyn a beiciau wedi eu haddasu ar gael ar gyfer unrhyw un sydd eu hangen.  Talodd arian y Loteri i’r grŵp hwn brynu pedwar sgwter trydan newydd. 

Man on motorised scooter.  © Awards for All
Crwydrwr Forth a Tay ar sgwter trydan.

Pwy roddodd yr arian?

Arian i Bawb  

 

Beth oedd y rhaglen grant ?

Mae Arian i Bawb yn cynnig grantiau rhwng £500 a - £5,000 ar gyfer amrywiaeth eang o weithgareddau cymunedol. 

 

Faint o arian a roddwyd?

£5,000 

 

Ble mae’r prosiect wedi’i leoli?

Mae wedi ei leoli yn Leven, Fife. 

 

Pam oedd hwn yn brosiect mor dda?

Cyn i’r grŵp hwn wneud cais i Arian i Bawb nid oedd yn gallu darparu digon o offer ar gyfer yr holl bobl oedd am ymuno gyda nhw. Roedd y prosiect hwn yn rhoi’r cyfle i fwy o bobl ag anableddau gymryd rhan yng ngweithgareddau cerdded y grŵp, gan helpu i gynyddu eu hyder a gwella eu ffitrwydd a’u hiechyd yn yr awyr agored.  Mae wedi golygu fod y grŵp yn fwy annibynnol hefyd gan nad yw’n gorfod dibynnu bellach ar fenthyg offer.  Roedd y prosiect yn gallu bodloni pedwar nod y rhaglen. 

 

Ble galla i gael gwybod mwy? 

Mae gwybodaeth am y cynllun hwn ar gael yn www.arianibawb.org.uk a gellir cael pecynnau cais drwy ffonio 0845 600 20 40. 

 

 

-----

[Extension 'ext-lottery-case-studies' (21783) on page 'Wales/awards-for-all-disabled-ramblers-case-study'] Line 24: LoadById: Wrong type. Please specify numeric argument.

Return to Lottery Funders list

Ariannu

 

 

Awarding funds from The National Lottery