Yn dyfarnu arian Y Loteri Genedlaethol.

Arian y Loteri

Cymraeg | English   
 

Wasp


Location: England, UK

 

 

Enw’r prosiect

 

‘Wasp’ 

 

Pwy yw’r ymgeisydd?

 

Cowboy Films 

 

Beth yw’r prosiect?

 

Ffilm fer 23 munud. Mae Zoe, mam sengl yn ceisio noson o ryddid gyda hen gariad, ond mae ei dyheadau rhamantaidd yn cael eu rhwystro gan ei phedwar plentyn ifanc sy’n aros amdani y tu allan ym maes parcio’r dafarn. 

 

Pwy roddodd yr arian?

 

Cronfa Sinema Newydd Cyngor Ffilm y DU 

 

Beth oedd y rhaglen grant?

 

Cynllun ffilmiau byr ‘Cinema Extreme’ wedi’i ariannu ar y cyd gan Gronfa Sinema Newydd Cyngor Ffilm y Du a Film Four. Crëwyd y cynllun yn 2002 i annog a datblygu cyfarwyddwyr a chanddynt lais cyfarwyddol unigryw a dawn sinematig. 

 

Faint o arian roddwyd?

 

Derbyniodd y prosiect gyfanswm cyllideb cynhyrchu o £53,250, rhoddwyd pum deg y cant o hwn gan y Gronfa Ffilm Newydd a’r gweddill gan Film Four. Roedd arian ychwanegol ar gael gan Gyngor Ffilm y DU er mwyn talu am hawliau cerddoriaeth ac i hyrwyddo’r ffilm mewn gwyliau cenedlaethol. 

 

Ble mae’r prosiect wedi’i leoli?

 

Cafodd y ffilm ei saethu yn Dartford, Kent, a’r cyffiniau. Mae’r cynllun ‘Cinema Extreme’ ar gael i wneuthurwyr ffilmiau a chwmnïau cynhyrchu sydd wedi’u lleoli yn y DU. 

 

Pam roedd hwn yn brosiect mor dda?

 

Mae’r ffilm derfynol wedi cael ei chanmol i’r entrychion gan y beirniaid ac wedi ennill 36 o wobrau mewn gwyliau ffilm rhyngwladol, gan gynnwys Oscar® 2005 am y Ffilm Fer ‘Live Action’ orau. 

 

Mae’r ffilm wedi sefydlu Andrea Arnold, y gyfarwyddwraig, yn gadarn fel un o dalentau cyfarwyddo addawol mwyaf diddorol y DU. Pan ddangoswyd hi gyntaf  yng Ngŵyl Ffilm Caeredin, denodd y ffilm ddiddordeb cwmnïau Ffilm Zentropa Denmarc a Sigma Films Yr Alban, ac o ganlyniad cafodd Andrea ei chomisiynu i weithio ar ei Ffilm hyd llawn cyntaf ‘Advance Party’. 

 

Bu ‘Wasp’ hefyd yn fodd i roi cychwyn i yrfa Nathalie Press, sy’n chwarae rhan Zoe yn y ffilm. Mae Nathalie wedi cael canmoliaeth enfawr am ei rhan yn ‘My Summer of Love’, mae ganddi brif ran yn ffilm ‘Chromophobia’ Martha Fiennes ac mae’n ymddangos yn ‘Bleak House’ y BBC. 

 

 

-----

[Extension 'ext-lottery-case-studies' (21783) on page 'UK/ukfilm-wasp-case-study'] Line 24: LoadById: Wrong type. Please specify numeric argument.

Return to Lottery Funders list

Ariannu

 

 

Awarding funds from The National Lottery