Yn dyfarnu arian Y Loteri Genedlaethol.

Arian y Loteri

Cymraeg | English   
 

The Unseen Archive


Location: England

 

 

Enw’r prosiect

The Unseen Archive 

 

Pwy yw’r ymgeisydd?

Cyngor Sir Suffolk   

 

Beth yw’r prosiect?

Prosiect yw hwn i ddarparu mynediad i’r cyhoedd i archif ffotograffau papur newydd yr East Anglian Daily Times; mae’r archif  yn cwmpasu bywyd yn Suffolk yn ystod y 50 mlynedd diwethaf. 

 

Bydd y prosiect yn helpu i ddatblygu’r archif fel adnodd addysgiadol i ysgolion a grwpiau cymunedol lleol. Bydd lluniau wedi’u digido ar gael ar-lein drwy gyfrwng gwefan fydd wedi ei llunio’n arbennig.  

 

Mae’r ffotograffau’n cynnwys darluniau o ryfel, tywydd mawr anarferol, ffeiriau pentref, ymweliadau gan y teulu brenhinol yn lleol a llawer, llawer mwy!  

 

Mae’r prosiect wedi helpu i ariannu swyddog prosiect i gydlynu’r cynllun. 

 

Pwy roddodd yr arian?

Cronfa Dreftadaeth y Loteri 

 

Beth oedd y rhaglen grant?

Eich Treftadaeth – ar gyfer grantiau o £5,000 i £50,000. 

 

Faint o arian a roddwyd?

Rhoddodd Cronfa Dreftadaeth y Loteri £35,800. Roedd cyfanswm costau’r prosiect yn £47,000; rhoddodd Cyngor Sir Suffolk y gweddill yn gymorth ariannol a chyfraniadau ar ffurf nwyddau. 

 

Ble mae’r prosiect wedi’i leoli?

Ipswich yn Suffolk. Ond gall unrhyw un gael mynediad at y prosiect drwy gyfrwng y Rhyngrwyd. 

 

Pam roedd hwn yn brosiect mor dda?

Mae’r prosiect hwn yn rhoi dehongliad unigryw o dreftadaeth leol trwy gyfrwng lluniau ac yn helpu i’w warchod ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol; drwy gyfrwng y wefan, bydd cynulleidfa hollol newydd yn gallu dysgu am eu treftadaeth leol.   

 

Mae’r prosiect yn fwy na gwefan yn unig (Ar y cyfan nid yw Cronfa Dreftadaeth y Loteri’n fodlon ariannu prosiectau sy’n canolbwyntio’n gyfan gwbl ar fynediad ar-lein). Un rhan yw’r wefan o raglen ymestyn barhaus i roi’r cyfle i unrhyw un ddysgu am eu treftadaeth. Mae plant ysgol wedi bod yn digido ffotograffau ac yn gwneud gwaith yn y dosbarth ar beth maen nhw wedi’i ddarganfod; gofynnir i bobl leol rannu eu hatgofion am ddigwyddiadau sydd wedi eu dal ar ffilm; mae gwirfoddolwyr yn cael eu recriwtio i helpu i archwilio’r archif; a rhoddir sylw i luniau sy’n dod i’r fei yn yr archif ym mhapur newydd yr  East Anglian Daily Times. Mae cynlluniau ar y gweill hefyd i arddangosfa o luniau deithio o gwmpas llyfrgelloedd lleol. 

 

Bu’r prosiect hwn yn llwyddiannus am ei fod yn bodloni’r meini prawf ar gyfer y rhaglen grant; ond yn fwy na hynny, roedd yn greadigol wrth feddwl pwy fyddai’n elwa o’r prosiect a beth fyddai’r ffordd orau i sicrhau’r budd hwnnw. Wrth wneud hynny, mae hefyd wedi helpu i warchod a gwella enghraifft ryfeddol o’n treftadaeth amrywiol. 

 

Ble galla i gael gwybod mwy?

www.unseenarchive.co.uk  

 

For more information visit the website:

www.unseenarchive.co.uk

 

 

-----

Return to Lottery Funders list

Ariannu

 

Chwiliad ariannu

 

Awarding funds from The National Lottery